top of page
x large.jpg

Ymgyrch Gwarchod Enwau Lleoedd Cymraeg

Un Enw! Enw Cymraeg!

'Dyma'r mynyddoedd. Ni fedr ond un iaith eu codi

A'u rhoi yn eu rhyddid yn erbyn wybren cân.'

 

                - 'Cymru a Chymraeg', Waldo Williams

Pam gwarchod enwau lleoedd Cymraeg?

Maen nhw'n rhan hanfodol o'n hiaith a'n diwylliant

 

Maen nhw'n rhan o'n treftadaeth leol a chenedlaethol.

 

Maen nhw'n diffinio Cymru fel gwlad wahanol. 

 

Maen nhw'n gyfoethog o hanes y tir, y gymdeithas, byd natur a'r iaith.

 

Felly, maen nhw'n haeddu eu parchu drwy eu gwarchod a'u defnyddio.

Nant Ffrancon,
Y Carneddau

Mae'r wefan hon ochr yn ochr â gwefan Eryri Wen a sefydlwyd gan y diweddar Eilian Williams. Mynegwn ein gwerthfawrogiad o'i gyfraniad arbennig i warchod enwau lleoedd Cymraeg.

Bugail yr Enwau

Mae Dr Aled Williams, ymchwilydd arbenigol ym maes enwau lleoedd, wedi creu blog o'r enw Bugail yr Enwau. Mae Aled yn cynghori Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chomisiynydd y Gymraeg ar enwau lleoedd y mynydd-dir. Mae o'n llunio pecynnau tystiolaeth yn seiliedig ar waith maes yn cynnwys holi ffermwyr mynydd. 

Mae'r ddolen isod yn cynnwys y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Arolwg Ordnans ar ddau enw - Diffwys Criafol ac Ysgar ar y Grib Coch yn Eryri - sydd heb eu cynnwys ar y mapiau. Bu'r cais yn llwyddiannus, a bellach mae'r Arolwg Ordnans wedi derbyn pecynnau tystiolaeth o waith Aled ar nifer o enwau lleoedd eraill, gan gynnwys cais i hepgor The Nameless Cwm a defnyddio'r enw Cwm Cneifion yn unig.

Y Glyderau, Cwm Cneifion

Cydlynydd: Emyr Roberts

Cyswllt Cylch yr Iaith: Ieuan Wyn

Trefnydd Cyhoeddusrwydd: Rhys Parry

bottom of page